Cymru

Carbon Literacy yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru a nifer o awdurdodau unedol a chynghorau cymuned a thref wedi datgan “argyfwng hinsawdd”. Mae’r llywodraeth Lafur bresennol wedi gosod targed o ostyngiad o 80% yn yr allyriadau carbon erbyn 2050, yn erbyn llinell sylfaen 1990. Mae wedi cyhoeddi “Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel” sy’n nodi sut mae’n gobeithio cyflawni hyn. Maent hefyd wedi cyhoeddi “Ffyniant i Bawb: Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd” sef eu cynllun ymaddasu.

Pa blaid bynnag sy’n ffurfio Llywodraeth Cymru, mae dyletswydd statudol arnynt i lynu wrth egwyddorion datblygu cynaliadwy a dilyn cyfres o nodau llesiant. Mae hyn wedi’i fandadu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Mae dyfodol carbon isel ac ymateb ar unwaith i newid yn yr hinsawdd yn rhan o’r ddyletswydd hon. Felly, mae derbyn realiti’r newid yn yr hinsawdd, ac ymrwymiad i leihau allyriadau ac addasu i newid, yn rhan sylfaenol o bolisi cyhoeddus Cymru ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn cydnabod bod gan Carbon Literacy ran bwysig i’w chwarae yn y gwaith o gyflawni’r nodau a’r targedau y mae’r Llywodraeth bresennol wedi’u cyhoeddi, yn ogystal â nodau ehangach Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yng nghynllun deg pwynt y Comisiynydd ar gyfer datgarboneiddio, gelwir am Carbon Literacy ar gyfer y sector cyhoeddus.

Mae Cynnal Cymru yn mynd ymhellach na hyn; rydym yn credu y dylai Carbon Literacy fod yn nodwedd ddiffiniol ar yr holl addysg yng Nghymru ac yn rhan o ddysgu gydol oes. Mae’n gydlynol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r weledigaeth o Gymru sydd wedi’i hymgorffori yn y ddeddfwriaeth sylfaenol hon. Ni allwn obeithio cyflawni’r weledigaeth heb gymdeithas sy’n llythrennog o ran carbon.

Cynnal Cymru

Mae Cynnal Cymru, sef partner swyddogol y Prosiect Carbon Literacy yng Nghymru, wedi bod yn darparu hyfforddiant Carbon Literacy ardystiedig ers 2017. Mae’r sefydliadau sydd wedi elwa ar eu hyfforddiant yn cynnwys Amgueddfa Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i enwi ond rhai. Dyma’ch cyfle chi nawr i ymuno â mudiad sy’n tyfu.

Cynnal Cymru yw’r sefydliad sy’n arwain ym maes datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Eu cenhadaeth yw sicrhau bod Cymru yn gymdeithas carbon isel sy’n effeithlon o ran adnoddau, yn iach, yn gyfiawn ac yn ffyniannus, gan ffynnu mewn cydbwysedd gyda’r ecosystemau naturiol sy’n ei chynnal. Maent yn cefnogi talent, sgiliau ac arloesed pobl drwy eu gwasanaethau ymgynghori, eu digwyddiadau a’u hyfforddiant. Maent yn galluogi unigolion, sefydliadau a busnesau yng Nghymru i gyflawni newid mesuradwy a dod yn arweinwyr ac arloeswyr ar gyfer byd gwell.

I gael rhagor o wybodaeth neu i holi am hyfforddiant Carbon Literacy drwy Cynnal Cymru, cysylltwch â training@cynnalcymru.com.

Prosiectau

Sign-up for our monthly Carbon Literacy newsletter